Mae'n ofynnol bod gennych gyfrif defnyddiwr dilys a chyfrinair i gael mynediad i'r data.
I fewngofnodi, nodwch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair isod.
Mae'r data a ddangosir ar y wefan hon wedi'i gasglu dros amser; gall cyflwr, defnydd a lefel ddeiliadaeth adeilad rhestredig newid ar unrhyw adeg ac efallai y bydd oedi rhwng newidiadau o'r fath a diweddaru'r wybodaeth ar y wefan hon. Mae'r holl ddata a ddangosir yn adlewyrchu'r sefyllfa fel ag yr oedd ar adeg yr arolwg yn unig.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am HAABase neu os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gael mynediad i'ch cyfrif neu ddefnyddio'r wefan, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio'r ffurflen hon.
Mae asesiad risg yr adeilad yn seiliedig ar gyfuniad y sgoriau cyflwr a deiliadaeth yn unol â methodoleg safonol. Er bod hon yn system hirsefydlog, mae'n bosibl bod ganddi gyfyngiadau. Felly, mewn rhai achosion argymhellir, wrth gysidro unrhyw adeilad, bod yr asesiad risg a'r sgôr HAA yn cael eu hystyried. Mae methodoleg newydd sy'n seiliedig ar HAA ar gyfer cyfrifo'r asesiad risg cyffredinol wrthi'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, dangosir y gwerth cychwynnol ar gyfer hyn yn adran asesiad yr HAA.
Methodoleg Asesiad Risg:
Cyfrifir y sgôr HAA drwy gyfuno sgôr cyflwr rhwng 1 a 4, gyda 4 yn dda ac 1 yn wael iawn, ar gyfer y prif elfennau y cesglir y data ar eu cyfer yn yr arolwg. Mae'r sgôr ar gyfer pob elfen unigol yn cael eu cyfuno â ffactorau pwysoli, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd yr elfen yn sefydlogrwydd cyffredinol yr adeilad. Mae mesur o ddeiliadaeth yr adeilad hefyd yn cael ei gynnwys yn yr asesiad. Caiff sgôr HAA ei gyfrifo o'r sgoriau pwysoli drwy gymhwyso algorithm aflinol. Mae gan y sgôr uchafswm o 100 (dim gweithredu'n angenrheidiol) a lleiafswm o 0.
Caiff gwybodaeth ei chasglu am gyflwr pob un o brif elfennau'r adeiladu. Mae hyn yn caniatáu i'r diffygion gael eu nodi ac i'r tueddiadau ar gyfer mathau o adeiladau neu rannau gael eu gweld.
Mae gwahanol ddeunyddiau adeiladu'n ymddwyn mewn gwahanol ffyrdd. Mae'r asesiad hwn yn tynnu sylw at hyn ac mae modd ei ddefnyddio i ragfynegi cyfraddau dirywiad neu i dargedu gweithredu cynnar.
Mae'r effaith ar gyflwr cyffredinol adeilad o ddiffygion mewn rhai elfennau yn fwy pwysig nag eraill. Mae pwysoli'n cymryd hyn i ystyriaeth.
Wrth i gyflwr adeilad neu ei elfennau ddirywio, bydd cyfradd unrhyw ddirywiad pellach yn dueddol o gynyddu. Mae'r asesiad yn galluogi ar gyfer hyn.
Mae proffilio stoc yn rhoi cipolwg o'r materion a wynebir gan y stoc. Gall dadansoddiad cymharol ddangos y ffordd at y weithred fwyaf effeithiol.
Drwy gyfuno data o dros 60,000 o arolygon blaenorol, mae ystod o fodelau rhagdybio newid wedi'u datblygu er mwyn helpu i amlygu adeiladau fydd o bosibl yn destun newid heb weithredu. Caiff y modelau eu diweddaru wrth i arolygon newydd gael eu hychwanegu i'r system. Yn ogystal, caiff paramedrau'r model eu hadolygu'n gyson. Wrth i ragor o ddata gael ei ychwanegu i'r system bydd y modelau'n gwella o ran cywirdeb. Ar hyn o bryd, mae'r modelau'n gwneud rhagfynegiadau'n seiliedig ar gyfartaledd gwrthdro wedi'i bwysoli, gan gymryd i ystyriaeth y patrymau newid ar gyfer data ar y lefelau canlynol: awdurdod cynllunio lleol, cymuned, math adeilad cyffredin, math adeilad manwl, gradd rhestru, sgôr HAA a morffoleg safle'r adeilad. Mae'r gwerthoedd newid rhagfynegol wedi'u grwpio'n dair rhan: isel, cyfartalog ac uwch.
Mae'r model hwn yn cynnig rhagfynegiant o'r posibilrwydd o ddirywiad sylweddol yn y sgôr HAA fesul blwyddyn, yn ystod y 3 i 5 mlynedd nesaf, heb unrhyw weithredu'n cael ei gynnal (megis gwaith cynnal a chadw rheolaidd neu waith sylweddol).
Mae'r model hwn yn rhoi syniad o raddfa bosibl unrhyw ddirywiad, mewn un flwyddyn, pe byddai'n digwydd.
Gall cyfuniad o'r ddau fodel cyntaf roi syniad o fregusrwydd adeilad.
Mae'r Sgôr HAA ar gyfer yr adeilad yn cael ei gymharu â'r sgôr HAA cyfartalog ar gyfer nifer o grwpiau. Mae'r golofn gyntaf yn y tabl yn dangos canran y gwahaniaeth rhwng y sgôr HAA ar gyfer yr adeilad a'r sgôr HAA cyfartalog ar gyfer y grŵp, mae ffigwr posibl yn dangos bod gan yr adeilad sgôr HAA uwch na chyfartaledd y grŵp. Mae'r ail golofn yn y tabl yn rhoi gradd yr adeilad a'r cyfanswm grŵp, mae'r ffigwr yn y cromfachau'n dangos lleoliad yr adeilad ar y rhestr o safleoedd posibl (e.e. 0.5 - yng nghanol y grŵp, 0.99 - ar frig y grŵp). Mae'r golofn olaf yn rhoi cynrychiolaeth raffigol o'r asesiad safle. Mae'r bar yn goch os oes gan yr adeilad sgôr HAA is na'r cyfartaledd, ac yn wyrdd os oes gan yr adeilad sgôr HAA uwch na'r cyfartaledd. Mae hyd y bar yn cynrychioli'r gwerth cymesur.
Er bod yr asesiad risg a'r sgôr HAA yn rhoi adlewyrchiad rhesymol o statws cyfredol a phroffil newid tebygol adeilad, mae yna ystod o gyfleusterau eraill a gaiff eu hystyried wrth asesu'r posibilrwydd o weithredu ar gyfer unrhyw adeilad penodol. Er mwyn galluogi i restrau gweithredu â blaenoriaeth gael eu creu ar gyfer bob grŵp o adeiladau, mae yna dechneg asesu wedi'i datblygu i gymryd y meini prawf ychwanegol hyn i ystyriaeth.
Mae'r asesiad PAS yn rhoi sgôr rhwng 0 a 100 (100 - blaenoriaeth uchaf ar gyfer gweithredu) ar gyfer pob adeilad, yn seiliedig ar y mesurau canlynol: gradd rhestru, sgôr risg, ffactorau lleol (data a ddarparwyd gan swyddogion cadwraeth lleol), y newid yn y dirywiad, cyfradd y dirywiad, y sgôr HAA a'r HAA clwstwr (mesur o statws cyffredinol yr adeiladau sy'n agos at hynny ac sydd dan ystyriaeth). Cymhwysir ffactor pwysoli i bob un o'r mesurau i gyrraedd y gwerth PAS cyffredinol.
Ar hyn o bryd, mae ystod o ffactorau pwysoli cyffredinol wedi'u cymhwyso i'r data er mwyn rhoi darlun o'r system. Dros amser, bydd gwerthoedd y ffactorau pwysoli'n cael eu diweddaru i adlewyrchu'r darlun cenedlaethol cyffredinol.
Mae modd creu rhestrau PAS ar gyfer amrywiaeth o grwpiau drwy gyfleuster chwilio'r grŵp ar y brif dudalen chwilio.
Mae'r tabl cyntaf yn rhoi'r sgôr adeilad ar gyfer pob mesur a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r gwerth PAS, ynghyd â'r ffactorau pwysoli a gafodd eu cymhwyso i bob adeilad.
Mae'r ail dabl yn rhoi safleoedd (adeilad/grŵp), gwerthoedd cymesur a chynrychiolaeth raffigol ar gyfer amrywiaeth o grwpiau y mae'r adeilad wedi'i leoli ynddynt.
Caiff crynodeb o'r wybodaeth ei darparu ar gyfer yr arolwg cyfredol a phob arolwg blaenorol ar gyfer yr adeilad. Os nad oes arolygon blaenorol cyffelyb i'w cael, yna dim ond gwybodaeth am yr arolwg cyfredol a ddangosir.
Defnyddiwch yr opsiwn yma i ddod o hyd i adeilad. O ystyried yr amrywiaeth eang o ffyrdd mae adeiladau rhestredig wedi'u henwi, mae'n well cyflwyno'r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen i ddod o hyd i'r adeilad. Darperir rhestr o adeiladau sy'n cyfateb. Gall y chwiliad gynnwys cyfeirnod Cadw, enw'r adeilad, enw'r awdurdod lleol, y gymuned a'r mathau defnydd.
Gellir defnyddio'r opsiwn hwn i ddiffinio grŵp o adeiladau trwy adio hyd at bum ffilter. Dim ond unwaith y gellir dewis pob math o hidlydd a bydd y grŵp yn cynnwys yr adeiladau hynny sy'n cyd-fynd â'r holl hidlyddion. Mae gan y blwch cyntaf amrywiaeth o fathau o hidlwyr y gellir eu dewis ac mae gan yr ail werthoedd perthnasol ar gyfer yr hidlydd a ddewiswyd.
Mae'n bosibl dechrau'r broses hidlo o unrhyw opsiwn ffilter, ond i gynorthwyo'r dewis mae'n well dechrau gyda'r awdurdod cynllunio neu'r gymuned (os yw'r naill neu'r llall i'w cynnwys yn niffiniad y grŵp), gan fod hyn yn cyfyngu ar yr opsiynau yn y blychau diweddarach. Ar gyfer defnyddwyr â mynediad cyfyngedig (e.e. mynediad ar lefel awdurdod lleol), bydd y rhestr o hidlwyr posibl yn cael ei chyfyngu i adlewyrchu’r mynediad sydd ar gael.
Dros amser, mae proffiliau statws nodweddiadol wedi'u nodi ar gyfer ystod o gategorïau sgôr HAA. Drwy neilltuo bob un o'r sgoriau adeilad unigol i un o'r categorïau hyn, mae modd datblygu proffil ar gyfer pob grŵp. Mae disgrifiadau o statws y categorïau wedi'u cyffredinoli ac efallai na fyddant bob amser yn gwbl berthnasol i bob math adeilad. Fodd bynnag, maent o gymorth i roi syniad o'r problemau mae adeilad neu grŵp o adeiladau yn eu hwynebu. Wrth i ragor o ddata gael ei ychwanegu i'r system, bydd y disgrifiadau categori yn cael eu ehangu er mwyn galluogi'r math defnydd adeilad yn ogystal â'r sgôr HAA.
Drwy gyfuno data o dros 60,000 o arolygon blaenorol, mae ystod o fodelau rhagfynegi newid wedi'u datblygu er mwyn helpu i amlygu adeiladau fydd o bosibl yn destun newid heb weithredu. Caiff y modelau eu diweddaru wrth i arolygon newydd gael eu hychwanegu i'r system. Yn ogystal, caiff paramedrau'r model eu hadolygu'n gyson. Wrth i ragor o ddata gael ei ychwanegu i'r system bydd y modelau'n gwella o ran cywirdeb. Ar hyn o bryd, mae'r modelau'n gwneud rhagfynegiadau'n seiliedig ar gyfartaledd gwrthdro wedi'i bwysoli, gan gymryd i ystyriaeth y patrymau newid ar gyfer data ar y lefelau canlynol: awdurdod cynllunio lleol, cymuned, math adeilad cyffredin, math adeilad manwl, gradd rhestru, sgôr HAA a morffoleg safle'r adeilad. Mae'r gwerthoedd newid rhagfynegol wedi'u grwpio'n dair rhan: isel, cyfartalog ac uwch. Er bod y modelau'n rhoi asesiad sy'n seiliedig ar yr holl wybodaeth sydd ar gael, rhaid cofio y gall amgylchiadau unigol olygu bod adeilad yn newid y tu allan i'r ystod o ragfynegiadau a wnaed.
Mae asesiad dirywiad posibl pob adeilad wedi'i neilltuo i gategori isel, cyfartalog neu uwch. Mae'r tabl yn dangos cyfansymiau categori'r grŵp. Seilir yr asesiad ar y newid yn y dirywiad heb weithredu o ystyried cyflwr yr adeilad ar adeg yr arolwg.
Mae asesiad o gyfradd dirywiad pob adeilad wedi'i neilltuo i gategori isel, cyfartalog neu uwch. Mae'r tabl yn dangos cyfansymiau categori'r grŵp. Seilir yr asesiad ar gyfradd y dirywiad sy'n debygol heb weithredu o ystyried cyflwr yr adeilad ar adeg yr arolwg.
Mae'r NTMI yn fesur o'r deunyddiau anhraddodiadol (e.e. ffenestri neu ddrysau plastig, teils to concrid, portshys o flociau concrid) sy'n bresennol mewn adeilad. Mae'r sgôr NTMI Positif yn cynrychioli cyfanswm nifer yr adeiladau yn y grŵp sy'n cynnwys un elfen o leiaf sydd wedi'i chreu o elfen anhraddodiadol. Mae'r sgôr NTMI Negyddol yn cynrychioli cyfanswm nifer yr adeiladau yn y grŵp na welwyd unrhyw ddefnydd sylweddol o ddeunyddiau anhraddodiadol ynddynt.
O ystyried cwmpas yr archwiliad a gynhaliwyd, dylid bod yn eithaf pwyllog wrth drin y mesur hwn gan ei bod yn bosibl na welwyd rhai deunyddiau anhraddodiadol. Yn ogystal, mewn rhai achosion mae adeiladau sy'n cynnwys deunyddiau anhraddodiadol wedi'u rhestru. Dylid defnyddio'r tabl i roi argraff gyffredinol o raddfa'r deunyddiau anhraddodiadol a ddefnyddiwyd.
Rhoddir asesiadau risg ar gyfer pob grŵp gradd rhestru perthnasol Os nad oes gan unrhyw adeilad radd rhestru benodol yn y grŵp yna ni ddangosir y categori hwnnw.
Caiff pob adeilad ei neilltuo i grŵp morffoleg penodol ar sail ei Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is. Mae'r data hwn yn ddefnyddiol wrth asesu'r gwahanol faterion a'r lefelau risg mewn grwpiau adeiladau trefol, pentrefol ac ynysig.
Rhoddir sgôr cyflwr (1 – Gwael Iawn (Adnewyddiad Llawn), 2 – Gwael (Atgyweiriadau Sylweddol), 3 – Gweddol (Mân Atgyweiriadau), 4 – Da (Dim Gweithredu) i brif elfennau'r adeilad fel rhan o bob archwiliad. Caiff y rhain eu cyfuno i ddarparu tabl diffygion cyffredinol ar gyfer y grŵp. (Noder: mae parapedau pont yn cael eu cynnwys yn eitem parapet y To a'r Rhannau Uchaf).
Cyfrifir y sgôr HAA drwy gyfuno sgôr cyflwr rhwng 1 a 4, gyda 4 yn dda ac 1 yn wael iawn, ar gyfer y prif elfennau y cesglir y data ar eu cyfer yn yr arolwg. Mae'r sgôr ar gyfer pob elfen unigol yn cael eu cyfuno â ffactorau pwysoli, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd yr elfen yn sefydlogrwydd cyffredinol yr adeilad. Mae mesur o ddeiliadaeth yr adeilad hefyd yn cael ei gynnwys yn yr asesiad. Caiff sgôr HAA ei gyfrifo o'r sgoriau pwysoli drwy gymhwyso algorithm aflinol. Mae gan y sgôr uchafswm o 100 (dim gweithredu'n angenrheidiol) a lleiafswm o 0.
Mae'r proffil sgôr HAA yn rhoi'r sgôr HAA cyfartalog, uchaf a'r isaf ar gyfer y grŵp. Mae'r gwerth cyfartalog yn ffordd dda o ddangos statws cyffredinol y grŵp ac mae'r gwerthoedd uchaf ac isaf yn rhoi asesiad o'r ystod. Mae'r siart yn dangos cromlin y proffil HAA sy'n plotio'r sgôr HAA yn erbyn nifer yr adeiladau ac mae'r siap yn rhoi gwybodaeth am nifer yr adeiladau ym mhob categori sgôr. Mae cromliniau gyda'r rhan fwyaf o'r adeiladau yn y pen uchaf yn awgrymu grŵp gydag ychydig o broblemau.
Er bod yr asesiad risg a'r sgôr HAA yn rhoi adlewyrchiad rhesymol o statws cyfredol a phroffil newid tebygol adeilad, mae yna ystod o gyfleusterau eraill a gaiff eu hystyried wrth asesu'r posibilrwydd o weithredu ar gyfer unrhyw adeilad penodol. Er mwyn galluogi i restrau gweithredu â blaenoriaeth gael eu creu ar gyfer bob grŵp o adeiladau, mae yna dechneg asesu wedi'i datblygu i gymryd y meini prawf ychwanegol hyn i ystyriaeth.
Mae'r asesiad PAS yn rhoi sgôr rhwng 0 a 100 (100 - blaenoriaeth uchaf ar gyfer gweithredu) ar gyfer pob adeilad, yn seiliedig ar y mesurau canlynol: gradd rhestru, sgôr risg, ffactorau lleol (data a ddarparwyd gan swyddogion cadwraeth lleol), y newid yn y dirywiad, cyfradd y dirywiad, y sgôr HAA a'r HAA clwstwr (mesur o statws cyffredinol yr adeiladau sy'n agos at hynny ac sydd dan ystyriaeth). Cymhwysir ffactor pwysoli i bob un o'r mesurau i gyrraedd y gwerth PAS cyffredinol.
Ar hyn o bryd, mae ystod o ffactorau pwysoli cyffredinol wedi'u cymhwyso i'r data er mwyn rhoi darlun o'r system. Dros amser, bydd gwerthoedd y ffactorau pwysoli'n cael eu diweddaru i adlewyrchu'r darlun cenedlaethol cyffredinol.
Mae'r siart yn dangos y gwerthoedd sgôr heb eu pwysoli ar gyfer y grŵp i bob mesur PAS. Mae'r pwynt coch yn cynrychioli'r lefel gyfartalog ac mae'r bariau glas yn dangos y terfynau uchaf a'r isaf. Nid yw amrediad eang o werthoedd yn anarferol o ystyried yr ystod amrywiol o adeiladau sy'n bresennol yn y rhan fwyaf o grwpiau. Po uchaf yw lefel y pwynt coch, yr uchaf yw'r sgôr cyfartalog sydd gan y mesuriad hwnnw yn y grŵp. Mae'r gwerth PAS cyffredinol yn cymryd y sgoriau mesur ac yn eu cyfuno drwy ddefnyddio'r ffactorau pwysoli perthnasol.
O ddadansoddi ystod y gwerthoedd PAS ar gyfer pob adeilad yn y set ddata, mae ystod o gategorïau lefel gweithredu â blaenoriaeth wedi'u gosod. Caiff y rhain eu haddasu dros amser a dylid edrych arnynt fel canllaw yn unig. Mae'r proffil categori (a'r siart) yn fesuriad defnyddiol o'r lefel gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer unrhyw grŵp penodol.
Mae cyflwr yr amgylchedd hanesyddol yn un o'r dangosyddion a ddefnyddir i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae HAABase Cymru yn cynnwys data o arolwg o gyflwr a defnydd pob adeilad rhestredig yng Nghymru sy'n caniatáu nodi tueddiadau'n gynnar a all gynorthwyo i ddatblygu strategaethau a blaenoriaethu camau gweithredu i sicrhau bod adeiladau rhestredig yn cael eu diogelu.
Mae'r casgliad data hwn yn rhan o ymarfer casglu data parhaus ar gyflwr adeiladau rhestredig ledled Cymru, a gomisiynwyd gyntaf gan Cadw yn 2012. Gwneir hyn ar gyfnod treigl o bum mlynedd a'r broses gyfredol yw ar gyfer y cyfnod Hydref 2024 i Hydref 2029.
Mae'r holl ddata a gedwir ar wefan HAABase Cymru yn cael ei gasglu ar ran Cadw (Gweinidogion Cymru) sef perchnogion y data, rheolwyr data ac sy'n cymeradwyo pob cais am fynediad iddo.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol mewn perthynas â gwefan HAABase Cymru. Cedwir a defnyddir yr holl ddata yn amodol ar bob polisi preifatrwydd a gyhoeddwyd gan Cadw. Gellir dod o hyd i fanylion llawn polisi preifatrwydd Cadw yn https://cadw.llyw.cymru/polisi-preifatrwydd.
Manylion Cyswllt: support@t-hp.com
Pwnc y Data/Prosesu
Arolwg o gyflwr yr holl adeiladau rhestredig yng Nghymru i ganiatáu adnabod tueddiadau'n gynnar a all gynorthwyo i ddatblygu strategaethau a blaenoriaethu camau gweithredu i sicrhau bod adeiladau rhestredig yn cael eu diogelu. Cesglir data trwy ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd, trwy arolygon/ffotograffiaeth o adeiladau/strwythurau i gasglu a chofnodi gwybodaeth mewn perthynas â chyflwr a defnydd adeiladau rhestredig yng Nghymru.
Y Data a gasglwn
Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod y person hwnnw ohoni.
Efallai y byddwn yn casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch chi, ac rydym wedi'u grwpio gyda'i gilydd fel a ganlyn:
Data Hunaniaeth ar gyfer deiliaid cyfrifon - yn cynnwys enw cyntaf, cyfenw, enw defnyddiwr neu ddynodwr tebyg, a chyfeiriad e-bost.
Data Cyswllt ar gyfer deiliaid cyfrifon - cyfeiriad e-bost.
Data Technegol ar gyfer deiliaid cyfrifon - yn cynnwys cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), eich data mewngofnodi, math a fersiwn porwr, gosodiad a lleoliad parth amser, mathau a fersiynau ategion porwr, system weithredu a llwyfan a thechnoleg arall ar y dyfeisiau rydych chi'n eu defnyddio i gael mynediad i'r Wefan.
Data Defnydd ar gyfer deiliaid cyfrifon - yn cynnwys gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio'r Wefan (HAABase.com).
Data technegol yn ymwneud ag adeiladau rhestredig - Ffotograffau/delweddau o adeiladau. Cyflwr a statws meddiannaeth adeiladau rhestredig.
Seiliau cyfreithiol a hawliau diogelu data
O dan gyfraith diogelu data'r DU, rhaid i ni gael "sail gyfreithlon" ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae rhestr o seiliau cyfreithiol posibl yn GDPR y DU. Gall y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni effeithio ar eich hawliau diogelu data a nodir yn gryno isod:
Eich hawl i gael mynediad - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol. Gallwch ofyn am wybodaeth arall megis manylion ynghylch o ble yr ydym yn cael gwybodaeth bersonol a gyda phwy yr ydym yn rhannu gwybodaeth bersonol. Mae rhai eithriadau sy'n golygu efallai na fyddwch yn derbyn yr holl wybodaeth yr ydych yn gofyn amdani.
Eich hawl i gywiro - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro neu ddileu gwybodaeth bersonol yr ydych yn credu sy'n anghywir neu'n anghyflawn.
Eich hawl i ddileu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar sut y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol.
Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roddoch i ni i sefydliad arall, neu i chi.
Eich hawl i dynnu caniatâd yn ôl - Pan fyddwn yn defnyddio caniatâd fel ein sail gyfreithiol, mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
Os gwnewch gais, rhaid i ni ymateb i chi heb oedi gormodol ac ym mhob achos o fewn mis.
I wneud cais am hawliau diogelu data, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar frig yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Ein Seiliau Cyfreithiol ar gyfer casglu a defnyddio eich data
Mae cyflwr yr amgylchedd hanesyddol yn un o'r dangosyddion a ddefnyddir i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rydym ni (Partneriaeth Handley) yn casglu data ar ran Cadw (Gweinidogion Cymru), nhw yw'r rheolwr data.
Rydym ni (Partneriaeth Handley) yn casglu neu'n defnyddio eich gwybodaeth oherwydd ei bod yn rhan o gontract i gynnal ymarfer casglu data sy'n ymwneud â'r cyflwr a ni.
Rydym yn casglu data personol i ganiatáu inni weithredu cyfrifon mynediad i ddefnyddwyr ac i gyflawni gofynion casglu data ein contract.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol at ddibenion ymchwil neu archifo:
Mae cyflwr yr amgylchedd hanesyddol yn un o'r dangosyddion a ddefnyddir i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rydym ni (Partneriaeth Handley) yn casglu data ar ran Cadw (Gweinidogion Cymru), nhw yw'r rheolwr data.
Rydym ni (Partneriaeth Handley) yn casglu neu'n defnyddio eich gwybodaeth oherwydd ei bod yn rhan o gontract i gynnal ymarfer casglu data sy'n ymwneud â chyflwr a defnydd adeiladau rhestredig yng Nghymru fel sy'n ofynnol gan gontract a gyhoeddwyd gan Cadw (Gweinidogion Cymru). Ein buddiannau cyfreithlon yw:
Rydym yn casglu data personol i ganiatáu inni weithredu cyfrifon mynediad i ddefnyddwyr ac i gyflawni gofynion casglu data ein contract.
O ble rydym yn cael gwybodaeth bersonol gan:
Deiliaid cyfrifon – yn uniongyrchol gennych chi.
Data sy'n gysylltiedig ag adeiladau rhestredig – Cadw, ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd, arolygon.
Lleoliad Prosesu
Bydd data yn cael ei uwchlwytho a'i storio ar gymhwysiad gwe diogel, ar-lein. Bydd gan awdurdodau lleol fynediad at ddata ar gyfer eu hardaloedd awdurdod lleol priodol. Bydd gan gyrff eraill fel asiantaethau ariannu fynediad cyfyngedig hefyd. Am ba hyd rydym yn cadw'r wybodaeth:
Mae hyn yn rhan o ymarfer casglu data parhaus ar gyflwr adeiladau rhestredig ledled Cymru, a gomisiynwyd gyntaf gan Cadw yn 2012. Gwneir hyn ar gyfnod treigl o bum mlynedd ac mae'r contract hwn ar gyfer y cyfnod Hydref 2024 i Hydref 2029.
Ar ôl cael ei uwchlwytho i'r cymhwysiad gwe a/neu ei system wrth gefn, bydd unrhyw wybodaeth a gedwir y tu allan i'r cymhwysiad gwe yn cael ei storio'n ddiogel a'i dinistrio dim hwy na 12 mis ar ôl ei dyddiad creu.
Gyda phwy rydym yn rhannu gwybodaeth
Fel sy'n ofynnol gan ein contract, byddwn ni (Partneriaeth Handley) yn rhannu data gyda Cadw (Gweinidogion Cymru), nhw yw'r rheolwr data ac mae'r holl ddata ar y wefan hon yn cael ei gasglu ar eu rhan, yn eiddo iddynt ac yn ddarostyngedig i unrhyw bolisi preifatrwydd perthnasol a roddir ar waith ganddynt.
Mae data hefyd yn cael ei rannu gyda defnyddwyr cymeradwy o'r system fel y'i cymeradwywyd gan Cadw (Gweinidogion Cymru). Ni chaniateir i Bartneriaeth Handley rannu data gydag unrhyw berson neu gorff heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Cadw (Gweinidogion Cymru). Bydd unrhyw gais am fynediad at ddata yn cael ei drosglwyddo i Cadw (Gweinidogion Cymru), byddant yn ymateb i ymholiadau o'r fath. Mae'r meini prawf i ddiffinio defnyddiwr cymeradwy wedi'u gosod gan Cadw (Gweinidogion Cymru). Dim ond defnyddwyr cofrestredig cymeradwy sy'n cael caniatâd i gael mynediad at y data. Bydd pob mynediad at ddata yn ddarostyngedig i amodau unrhyw gytundeb data defnyddiwr terfynol, neu unrhyw gytundeb cymwys arall, a roddir ar waith rhwng y defnyddiwr data a Cadw (Gweinidogion Cymru).
Hydref 2025